Luke 17:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny’ s dywedāt, Wely, yma, ne wely yna: canys wely y mae teyrnas Duw o’ch mewn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Wele yma,” neu “Accw,” canys wele, teyrnas Dduw, o’ch mewn y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac ni ddywedant, ‘Wele yma!’ neu ‘Acw!’ Canys wele, o’ch mewn chwi y mae teyrnas Dduw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele acw: canys wele, teyrnas Dduw, o'ch mewn chwi y mae.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd pobl ddim yn gallu dweud, ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ achos mae Duw yma'n teyrnasu yn eich plith chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni bydd pobl yn dweud, 'Dyma hi', neu 'Dacw hi'; edrychwch, y mae teyrnas Dduw yn eich plith chwi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni ddywedant chwaith, Wele yma; neu, Wele acw: canys, Wele, Teyrnas Dduw, o'ch mewn chwi y mae.