Luke 17:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyuot wrth y discipulon, E ddaw ’r amser pan ddeisyfoch ’weled vn o ddyddiae Map y dyn, ac ny ’s gwelwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Daw dyddiau pan chwennychwch weled un o ddyddiau Mab y Dyn, ac nis gwelwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Daw dyddiau pan fyddwch yn dyheu am weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn siarad am hyn gyda'i ddisgyblion wedyn, ac meddai, “Mae'r amser yn dod pan fyddwch chi'n dyheu am gael rhyw gipolwg bach o'r dyddiau pan fydda i, Mab y Dyn gyda chi eto, ond byddwch yn methu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai wrth ei ddisgyblion, "Daw dyddiau pan fyddwch yn dyheu am gael gweld un o ddyddiau Mab y Dyn, ac ni welwch mohono.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe a ddywedodd wrth y Dysgyblion, Y dyddiau a ddeuant, pan yr ymawyddwch weled un o ddyddiau Mab y Dyn, ac nis gwelwch.