Luke 17:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yuo y dywedant wrthych, Wele yma n, nei wele yna: eithyr nag ewch yno, ac na ddylynwch wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedant wrthych, “Wele, accw;” “Wele, yma;”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedant wrthych, ‘Dacw! Dyma!’ Nac ewch o’ch ffordd, nac erlid ar eu hôl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; neu, Wele acw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl yn honni fod Mab y Dyn wedi dod yn ôl; ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ byddan nhw'n ei ddweud. Ond peidiwch gwrando arnyn nhw a mynd allan i edrych amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedant wrthych, 'Dacw ef', neu 'Dyma ef'; peidiwch mynd, peidiwch rhedeg ar eu hl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddywedant wrthych, Wele acw; neu, Wele yma; nac ewch ymaith, ac na redwch ar eu hol: