Luke 17:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys me g is y vellten a velltenna o yvvrth vn van y dan y nef, a dowyn i van arall y dan y nef, velly y bydd Map y dyn yn y ddydd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nac ewch ymaith, ac na chanlynwch; canys fel y mae’r fellten, gan felltennu o un ran dan y nef, yn disgleirio i ran arall dan y nef, felly y bydd Mab y Dyn yn Ei ddydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys fel y mae’r fellten wrth fflachio yn goleuo o’r naill gwr dan y nen i’r llall, felly y bydd Mab y dyn yn ei ddydd ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys megis y mae'r fellten a felltenna o'r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl — bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o un pen i'r llall!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fel y fellten sy'n fflachio o'r naill gwr o'r nef hyd y llall, felly y bydd Mab y Dyn yn ei ddydd ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys fel y mae y fellten yn melltenu allan o'r naill ran dan y Nef yn dysglaerio hyd y rhan arall dan y Nef; felly y bydd Mab y Dyn yn ei Ddydd.