Luke 17:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwydd yr esemplæ hyn y bydd yn y diernot yr ymddengys Map y dyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn yr un modd y bydd yn y dydd y mae Mab y Dyn yn cael Ei ddatguddio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Fel yna'n union fydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod i'r golwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn union felly y bydd hi yn y dydd y datguddir Mab y Dyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn ol yr un pethau y bydd yn y dydd y mae Mab y Dyn yn cael ei ddadguddio.