Luke 17:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy pynac a gais gadw ei enait, ef ei cyll: a’ phwy py pynac ei cyll, ei bywocaa.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a phwy bynnag a’i collo, a’i bywha hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pwy bynnag a geisio gadw ei fywyd, a’i cyll, a phwy bynnag a’i collo, a’i ceidw’n fyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a'i cyll; a phwy bynnag a'i cyll, a'i bywha hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y rhai sy'n ceisio achub eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd yn diogelu bywyd go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy bynnag a gais gadw ei fywyd ei hun, fe'i cyll, a phwy bynnag a'i cyll, fe'i ceidw yn fyw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pwy bynag a geisio gadw iddo ei hun ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynag a'i cyll, a'i ceidw yn fyw.