Luke 17:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedaf y‐chwy, y nos hon hono y bydd dau mewn‐vn gwely: vn a dd erbynir, a’r llall a edewir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys dywedaf wrthych, Yn y nos honno y bydd dau mewn un gwely; y naill a gymmerir, a’r llall a adewir:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddaf i chwi, y nos honno bydd dau mewn un gwely; y naill a gymerir, a’r llall a adewir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymerir, a'r llall a adewir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y noson honno bydd dau yn rhannu gwely; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei adael.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rwy'n dweud wrthych, y nos honno bydd dau mewn un gwely; cymerir y naill a gadewir y llall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos hono y bydd dau yn yr un gwely: un a gymmerir, a'r llall a adewir.