Luke 17:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy o hanoch hefyt ac iddo was yn aredic neu yn porthi da, a ddywait wrthaw yn y van, yn ol dyuot o’r maes, Dos, ac eiste ’i lawr y vwyta?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phwy o honoch a chanddo was yn aredig neu yn bugeilio, a ddywaid wrtho, wedi dyfod o hono i mewn o’r maes, Tyred yn uniawn a lled-orwedda,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pwy ohonoch, a chanddo was yn aredig neu yn bugeilio, a ddywed wrtho wedi iddo ddyfod i mewn o’r maes, ‘Brysia a thyred ac eistedd wrth y bwrdd’?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pwy ohonoch chwi ac iddo was yn aredig, neu'n bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o'r maes, Dos ac eistedd i lawr i fwyta?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan mae eich gwas yn dod i'r tŷ ar ôl bod wrthi'n aredig y tir neu'n gofalu am y defaid drwy'r dydd, ydych chi'n dweud wrtho, ‘Tyrd i eistedd i lawr yma, a bwyta’?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Os oes gan un ohonoch was sy'n aredig neu'n bugeilio, a fydd yn dweud wrtho pan ddaw i mewn o'r caeau, 'Tyrd yma ar unwaith a chymer dy le wrth y bwrdd'?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pa un o honoch a chanddo was yn aredig neu yn bugeilio, a ddywed wrtho pan y dêl i mewn o'r maes, Yn ebrwydd tyred yn mlaen, ac eistedd i lawr i fwyta;