Luke 17:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ny ddywait yn hytrach wrthaw. Cyweiria hyn a swperwyf, ac ymwregysa, a’ gwasanaetha vi, nes i mi vwyta ac yfet, ac wedy hyny bwyta, ac yf di the?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr na ddywaid wrtho, Arlwya beth y swpperaf arno, a chan ymwregysu gwasanaetha arnaf nes i mi fwytta ac yfed;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr oni ddywed wrtho, ‘Hwylia swper i mi ac ymwregysa a gweinydda arnaf nes imi fwyta ac yfed, ac wedi hynny cei dithau fwyta ac yfed’?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i swperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi hynny y bwytei ac yr yfi dithau?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na, dych chi'n dweud, ‘Gwna swper i mi gyntaf. Cei di fwyta wedyn.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Na, yr hyn a ddywed fydd, 'Paratoa swper imi; torcha dy wisg a gweina arnaf nes imi orffen bwyta ac yfed; ac wedyn cei fwyta ac yfed dy hun.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond yn hytrach ai ni ddywed wrtho, Gwna yn barod beth i mi i swperu, ac ymwregysa, a gweina arnaf, hyd nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi y pethau hyn y bwytai ac yr yfi dithau?