Luke 18:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y Pharisai oei sefyll a weddiawdd val hyn wrthaw ehun, Duw, diolchaf y‐ty nad wyf mal y dynion ereill, yn gribdeilwyr yn ancyfiawnion, yn ’odinebwyr, ai mal y Publican hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y Pharishead yn ei sefyll, hyn, rhyngddo ac ef ei hun, a weddïodd efe, O Dduw, diolchaf i Ti am nad wyf fel y lleill o ddynion, rheibusion, anghyfiawnion, godinebwyr, neu fel y treth-gymmerwr hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Safodd y Pharisead, a gweddïo fel hyn wrtho’i hun: ‘O Dduw, yr wyf yn diolch iti nad wyf fel y gweddill o ddynion, yn gribddeilwyr, yn anghyfiawn, yn odinebwyr, neu fel y trethwr hwn chwaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y Pharisead o'i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r Pharisead yn sefyll ar ei draed yn hyderus, a dyma oedd ei weddi: ‘O Dduw, dw i yn diolch i ti mod i ddim yr un fath â phobl eraill. Dw i ddim yn twyllo na gwneud dim byd drwg arall, a dw i ddim yn gwneud pethau anfoesol. Dw i ddim yr un fath â'r bradwr yma!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Safodd y Pharisead wrtho'i hun a gweddo fel hyn: 'O Dduw, yr wyf yn diolch iti am nad wyf fi fel pawb arall, yn rheibus, yn anghyfiawn, yn odinebus, na chwaith fel y casglwr trethi yma.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y Pharisead a safodd i fyny, ac a barhâodd i weddio y pethau hyn wrtho ei hun, O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel pawb eraill o ddynion, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr, neu hefyd fel y Treth‐gasglwr hwn: