Luke 18:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Anid y Publican yn sefyll o hirbell, ny dderchavei na ei ’olygon tu ar nef, an’d curo ey ðwyvron can ðywedyt, Duw, trugarha wrthyf bechatur.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r treth-gymmerwr, yn sefyll o hirbell, nid ewyllysiai hyd yn oed godi ei lygaid tua’r nef, eithr curai ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, cymmoder Di â mi, y pechadur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond safai’r trethwr o bell, ac ni fynnai hyd yn oed godi ei lygaid tua’r nef, ond curai ei ddwyfron, gan ddywedyd, ‘O Dduw, trugarha wrthyf i’r pechadur.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua'r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond roedd y casglwr trethi wedi mynd i sefyll mewn rhyw gornel ar ei ben ei hun. Doedd e ddim yn meiddio edrych i fyny hyd yn oed. Yn lle hynny roedd yn curo ei frest mewn cywilydd. Dyma oedd ei weddi e: ‘O Dduw, wnei di faddau i mi. Dw i'n bechadur ofnadwy.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd y casglwr trethi yn sefyll ymhell i ffwrdd, heb geisio cymaint chodi ei lygaid tua'r nef; yr oedd yn curo ei fron gan ddweud, 'O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Treth‐gasglwr, gan sefyll o hirbell, ni fynai gymaint a chodi ei olygon tua'r Nef, eithr a barhâodd i guro ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd gymodlawn â mi, y pechadur.