Luke 18:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ys dywedaf wrthych, e ddescennawdd y dyn hwn y’w duy wedy ei gyfiawnhay, yn vwy na’r llall: Can ys pwy bynac a ymdderchaif, a ’oystynger, a’ hwn a ymestwng, a dderchefir,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedaf wrthych, Aeth hwn i wared i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau rhagor y llall; canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir, ac a ostyngo ei hun a ddyrchefir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedaf i chwi, aeth hwn i lawr i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau, yn hytrach na hwnacw. Canys pob un sy’n ei ddyrchafu ei hun a ostyngir, a’r hwn sy’n ei ostwng ei hun a ddyrchefir.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i'w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy na'r llall: canys pob un a'r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a'r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n dweud wrthoch chi mai'r casglwr trethi, dim y Pharisead, oedd yr un aeth adre a'i berthynas gyda Duw yn iawn. Bydd Duw yn torri crib pobl falch ac yn anrhydeddu'r rhai gostyngedig.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rwy'n dweud wrthych, dyma'r un a aeth adref wedi ei gyfiawnhau, nid y llall; oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn dywedyd i chwi, Aeth hwn i waered i'w dŷ wedi ei gyfiawnhâu yn hytrach na'r llall. Canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir; eithr yr hwn a ostyngo ei hun a ddyrchefir.