Luke 18:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
An’d pan glybu ef y pethe hyny, bod yn dra thrista or ug ef: can ys-goludawc aruthr y doedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe, wedi clywed y pethau hyn, yn dra-athrist yr aeth, canys yr oedd yn oludog iawn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yntau, pan glywodd hyn, aeth yn athrist, canys yr oedd yn gyfoethog iawn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd y dyn ddim yn hapus o gwbl pan glywodd beth ddwedodd Iesu, am ei fod yn ddyn cyfoethog dros ben.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan glywodd ef hyn, aeth yn drist iawn, oherwydd yr oedd yn gyfoethog dros ben.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist iawn: canys yr oedd efe yn gyfoethog ryfeddol.