Luke 18:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan y gwelas yr Iesu y vot ef yn dra thrist, y dywedawð, Pa’nd anhawdd ir ei ’sy a golud yðynt vyned i deyrnas Duw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan ei weled ef, yr Iesu a ddywedodd, Mor anhawdd y bydd i’r rhai sydd a golud ganddynt,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd yr Iesu ef, fe ddywedodd, “Mor anodd yr â’r rhai ag arian ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anodd yr â'r rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychodd Iesu ar y dyn yn cerdded i ffwrdd, ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Iesu ef wedi tristu, meddai, "Mor anodd yw hi i'r rhai goludog fynd i mewn i deyrnas Dduw!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu wrth ei weled ef a ddywedodd, Gyd â y fath anhawsder y mae y rhai y mae golud ganddynt yn myned i mewn i Deyrnas Dduw!