Luke 18:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyuot, Y pethae ys‐y ampossibil y gyd a dynion, ’sy possibil y gyd a Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd, Y pethau ammhosibl gyda dynion, posibl ydynt gyda Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau, “Y pethau sydd amhosibl gyda dynion sy bosibl gyda Duw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd amhosibl gyda dynion, sydd bosibl gyda Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Mae Duw yn gallu gwneud beth sy'n amhosib i bobl ei wneud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau, "Y mae'r hyn sy'n amhosibl gyda dynion yn bosibl gyda Duw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd anmhosibl gyd â dynion sydd bosibl gyd â Duw.