Luke 18:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot Petr, Nacha, ys gadawsam ni y cvvbl oll, ac ath ddylynesam di.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Petr, Wele, nyni wedi gadael ein heiddo, a’th ganlynasom.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd Pedr, “Dyma ni wedi gadael ein heiddo, a’th ddilyn di.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Pedr yn ymateb, “Ond dŷn ni wedi gadael popeth sydd gynnon ni i dy ddilyn di!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Pedr, "Dyma ni wedi gadael ein heiddo a'th ganlyn di."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Petr a ddywedodd, Wele, ni a adawsom ein heiddo ein hunain, ac a'th ganlynasom di.