Luke 18:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd gvvraic‐ gweddw yn y dinas hono, yr hon a ddoy attaw, gan ddywedyt, Gwna i mi gyffiawnder yn erbyn vy‐gwrthnebwr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac rhyw wraig weddw oedd yn y ddinas honno, a deuai atto, gan ddywedyd, Gwna gyfiawnder i mi oddiwrth fy ngwrth-ymgyfreithiwr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd gweddw yn y ddinas honno, a hi ddeuai ato, gan ddywedyd, ‘Amddiffyn fi rhag fy ngwrthwynebwr.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac yn yr un dref roedd gwraig weddw oedd yn mynd ato o hyd ac o hyd i ofyn iddo farnu rhywun oedd wedi gwneud niwed iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dref honno yr oedd hefyd wraig weddw a fyddai'n mynd ger ei fron ac yn dweud, 'Rho imi ddedfryd gyfiawn yn erbyn fy ngwrthwynebwr.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd gwraig weddw yn y Ddinas hono; a hi a barhâodd i ddyfod ato ef, gan ddywedyd, Amddiffyn fi drwy ddedfryd rhag fy ngwrthwynebwr.