Luke 18:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cymerth yr Iesu ataw y deuddec, ac a ddyuot wrthynt, Nycha, ni yn mynet i vyny i Caerusalem, ae a gyfiawnir i vap y dyn bop peth, ys y yscrivenenedic can y Prophwyti.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cymmeryd y deuddeg Atto, dywedodd wrthynt, Wele, myned i fynu i Ierwshalem yr ydym, a chwblheir yr holl bethau a ysgrifenwyd trwy’r prophwydi, i Fab y Dyn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe gymerth y deuddeg ato, a dywedodd wrthynt, “Dyma ni’n mynd i fyny i Gaersalem, a’r holl bethau a ysgrifennwyd trwy’r proffwydi a gyflawnir i Fab y dyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gymerodd y deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a chyflawnir pob peth a'r sydd yn ysgrifenedig trwy'r proffwydi am Fab y dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Iesu â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr, a dweud wrthyn nhw, “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, daw'r cwbl mae'r proffwydi wedi ei ysgrifennu amdana i, Mab y Dyn, yn wir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd y Deuddeg gydag ef a dweud wrthynt, "Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem, a chyflawnir ar Fab y Dyn bob peth sydd wedi ei ysgrifennu trwy'r proffwydi;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a gymmerodd y Deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym yn myned i fyny i Jerusalem, a'r holl bethau sydd wedi eu hysgrifenu trwy y Proffwydi am Fab y Dyn a ddygir i ben.