Luke 18:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy ny ni ddyallesont ðim or pethae hyn, ac ydd oedd y gair hwn yn guðiedic rhacddynt vvy, ac ny wybuont y pethae a ddywedesit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy ni ddeallent ddim o’r pethau hyn, ac yr oedd yr ymadrodd hwn yn guddiedig oddi wrthynt, ac ni chanfyddent y pethau a ddywedwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ni ddeallasant hwy ddim o’r pethau hyn, ac yr oedd y gair hwn yn guddiedig oddi wrthynt, ac ni wyddent am y pethau a ddywedid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd y disgyblion ddim yn deall hyn o gwbl. Roedd y cwbl yn ddirgelwch pur iddyn nhw, a doedd ganddyn nhw ddim syniad am beth roedd e'n siarad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yr oedd y peth hwn wedi ei guddio rhagddynt, a'i eiriau y tu hwnt i'w hamgyffred.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r peth oedd wedi ei guddio oddi wrthynt, ac ni ddaethant i wybod y pethau a ddywedwyd.