Luke 18:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a ddywedesont yddaw, mae’r Iesu o Nazaret oedd yn mynet heibio.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A mynegasant iddo, Iesu y Natsaread sy’n myned heibio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a mynegasant iddo fod Iesu o Nasareth yn mynd heibio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Iesu o Nasareth sy'n pasio heibio,” meddai rhywun wrtho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a mynegwyd iddo fod Iesu o Nasareth yn mynd heibio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a fynegasant iddo, Iesu o Nazareth sydd yn myned heibio.