Luke 18:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a ny ddial Duw ei dd etholedigion, ysy yn llefain arnaw ddydd a’ nos, cyd bo ef yn o hirddig drosdynt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Duw, oni wna Efe gyfiawnder Ei etholedigion y sy’n llefain Arno ddydd a nos, ac Efe yn hir-ymarhous tuag attynt?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oni ddyry Duw amddiffyn i’w etholedigion sy’n llefain arno ddydd a nos, ac a oeda ef yn eu hachos?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n gwybod beth ddwedodd y barnwr drwg. Felly beth am Dduw? Dych chi ddim yn meddwl y bydd e'n amddiffyn y bobl mae wedi eu dewis iddo'i hun? Fydd e ddim yn oedi! Bydd yn ymateb ar unwaith i'r rhai sy'n galw arno ddydd a nos!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A fydd Duw yn gwrthod cyfiawnder i'w etholedigion, sy'n galw'n daer arno ddydd a nos? A fydd ef yn oedi yn eu hachos hwy?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac oni effeithia Duw lwyr‐amddiffyniad i'w Etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos: ac eto y mae efe yn hir‐ymarhous ar eu rhan?