Luke 18:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedaf ychwy, taw y dial ef hwy yn glau. Eithyr pan ddel Map y dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaiar? Yr Euangel y xi. Sul gwedy Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedaf wrthych, y gwna Efe eu cyfiawnder ar frys. Eithr, Mab y Dyn, pan ddelo, a gaiff Efe ffydd ar y ddaear?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedaf i chwi y dyry amddiffyn iddynt yn ebrwydd. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd yn rhoi dedfryd gyfiawn iddyn nhw, a hynny ar frys! Ond, pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl, faint o bobl fydd yn dal i gredu bryd hynny?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rwy'n dweud wrthych y rhydd ef gyfiawnder iddynt yn ebrwydd. Ond eto, pan ddaw Mab y Dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn dywedyd i chwi, yr effeithia efe lwyr‐amddiffyniad iddynt ar frys. Yn mhellach, Mab y Dyn pan ddêl, a gaiff efe yn wir y fath ffydd ar y ddaear?