Luke 18:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Ef a ddyuot y parabol hwn wrth y’r ei oeð ei ymðiriet arnyn ehunain ey bot yn gyfiawn, ac yn diystyry yreill,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrth rai a ymddiriedent ynddynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac na wnaent ddim o bawb arall,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd hefyd y ddameg hon am rai a oedd yn hyderus eu bod hwy yn gyfiawn, ac yn diystyru’r lleill.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Iesu y stori yma wrth rai pobl oedd yn meddwl eu bod nhw eu hunain mor dduwiol, ac yn edrych i lawr eu trwynau ar bawb arall:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd hefyd y ddameg hon wrth rai oedd yn sicr eu bod hwy eu hunain yn gyfiawn, ac yn dirmygu pawb arall:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon hefyd wrth rai hyderus ynddynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn gwneuthur dim cyfrif o bawb eraill: