Luke 19:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’n hwy yn clywet y pethae hyn, y paraodd yn dywedyt parabol o bleit ei vot yn gyf agos i Gaerusalem, ac o bleit hefyd ey bot yn tybiet mai eb ohir yr ymddangosei teyrnas Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan glywent hwy y pethau hyn, chwanegodd ddywedyd dammeg, gan mai agos yr oedd Efe i Ierwshalem, a thybied o honynt mai allan o law yr oedd teyrnas Dduw ar fedr ymddangos.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hwythau’n gwrando ar y pethau hyn, fe aeth rhagddo i ddywedyd dameg, am ei fod yn agos i Gaersalem a’u bod hwy’n tybied bod teyrnas Dduw i ymddangos yn y fan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddameg, am ei fod efe yn agos i Jerwsalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y dyrfa'n gwrando ar bopeth roedd Iesu'n ei ddweud. Gan ei fod yn dod yn agos at Jerwsalem, dwedodd stori wrthyn nhw i gywiro'r syniad oedd gan bobl fod teyrnasiad Duw yn mynd i ddod unrhyw funud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oeddent yn gwrando ar hyn, fe aeth ymlaen i ddweud dameg, am ei fod yn agos i Jerwsalem a hwythau'n tybied fod teyrnas Dduw i ymddangos ar unwaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddammeg, am ei fod yn agos i Jerusalem, ac am iddynt dybied fod Teyrnas Dduw ar ymddangos yn eglur yn y man.