Luke 19:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ei ddinaswyr y caseynt ef, ac a dd anvonesont genad vvri ar y ol ef, gan ddywedyt, Ny vynnwn ni vot hwn yn teyrnasu arnam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond ei ddinaswyr a’i casaent ef, a danfonasant gennadwri ar ei ol, gan ddywedyd, Nid ewyllysiwn i hwn deyrnasu arnom.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr oedd ei ddinaswyr yn ei gasáu, ac anfonasant genhadau ar ei ôl, gan ddywedyd, ‘Ni fynnwn ni i hwn ddyfod yn frenin arnom ni.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr ei ddinaswyr a'i casasant ef, ac a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond roedd ei bobl yn ei gasáu, a dyma nhw'n anfon cynrychiolwyr ar ei ôl i ddweud eu bod nhw ddim eisiau iddo fod yn frenin arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd ei ddeiliaid yn ei gasu, ac anfonasant lysgenhadon ar ei l i ddatgan: 'Ni fynnwn hwn yn frenin arnom.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr ei ddinaswyr ef oeddynt yn ei gashâu, ac a ddanfonasant genadaeth ar ei ol ef, gan ddywedyd, Ni fynwn ni hwn i deyrnasu arnom.