Luke 19:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu, pan adchwelawdd, a’ d erbyn ei deyrnas, yno y gorchymynawdd ’alw ei weision ataw, at yr ei y roddesei ei arian, val y cay wybot beth elwesei pop vn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu, ar ol dychwelyd o hono, wedi derbyn y frenhiniaeth, y dywedodd hefyd am alw atto y geision hyny i’r rhai y rhoddasai yr arian, fel y gwybyddai pa faint a elwasant wrth farchnatta.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar ôl iddo ddychwelyd wedi cael y frenhiniaeth, dywedodd am alw ato’r gweision hynny y rhoesai’r arian iddynt, fel y caffai wybod beth a elwasai pob un wrth farchnata.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl, wedi derbyn y deyrnas, erchi ohono ef alw'r gweision hyn ato, i'r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnata.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond cafodd ei wneud yn frenin, a phan ddaeth adre galwodd ato y gweision hynny oedd wedi rhoi'r arian iddyn nhw. Roedd eisiau gwybod a oedden nhw wedi llwyddo i wneud elw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dychwelodd ef wedi ei wneud yn frenin, a gorchmynnodd alw ato y gweision hynny yr oedd wedi rhoi'r arian iddynt, i gael gwybod pa lwyddiant yr oeddent wedi ei gael.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, pan ddychwelodd drachefn, wedi derbyn y Deyrnas, ddywedyd o hono ef hefyd alw ato y gweision hyn, i'r rhai yr oedd wedi rhoddi yr arian, fel y gwybyddai beth a wnaethent mewn masnach.