Luke 19:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyuot wrthaw, Oi was da: can ys‐buost yn ffyddlawn yn echydig yn, cymer veddiant ar ddec dinas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd efe wrtho, Da, was da: gan mai mewn peth bychan iawn ffyddlawn fuost, bydd ag awdurdod genyt ar ddeg dinas.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrtho, ‘Campus, was da! Am i ti fod yn ffyddlon mewn ychydig, boed gennyt awdurdod ar ddeg dinas.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da. Gan dy fod di wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, dw i am dy wneud di'n rheolwr ar ddeg dinas.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Ardderchog, fy ngwas da,' meddai yntau wrtho. 'Am iti fod yn ffyddlon yn y pethau lleiaf, yr wyf yn dy benodi yn llywodraethwr ar ddeg tref.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrtho, Da yn wir, was da: canys ti a fuost yn ffyddlawn yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod dros ddeg dinas.