Luke 19:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys‐ith ofnais, o bleit dy vot yn wr dirfing: ti gymery i vyny, yr hyn ny ddodeist i lavvr, ac a vedi ’r hyn ny heuaist.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys ofnais di gan mai gŵr tost wyt: cymmeryd i fynu yr wyt yr hyn na roddaist i lawr, ac yn medi yr hyn na heuaist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr oedd arnaf dy ofn di, am dy fod yn ŵr llym — yr wyt yn codi’r hyn ni osodaist i lawr, ac yn medi’r hyn ni heuaist.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mi a'th ofnais, am dy fod yn ŵr tost: yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gen i ofn gwneud colled gan dy fod di'n ddyn caled. Rwyt ti'n ecsbloetio pobl, ac yn dwyn eu cnydau nhw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd arnaf dy ofn di. Yr wyt yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys yr oeddwn yn dy ofni di, am dy fod yn wr caled: yr wyt yn cymmeryd i fyny yr hyn ni osodaist i lawr, ac yn medi yr hyn ni heuaist.