Luke 19:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dywedawdd wrthaw, Oth enae dyhun ith varnaf, was drwc. Gwyddyt’ vy‐bot i yn ’wr dirfing yn cymeryd i vyny hyn ny ddodwn i lavvr, ac yn meti hyn ny heuwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd efe wrtho, O’th enau y’th farnaf, was drwg. Gwyddit fy mod i yn ddyn tost, yn cymmeryd i fynu yr hyn na roddais i lawr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eb ef wrtho, ‘O’th enau dy hun yr wyf yn dy farnu, was drwg; ti wyddit fy mod yn ŵr llym, yn codi’r hyn ni osodais i lawr ac yn medi’r hyn ni heuais.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd wrtho, O'th enau dy hun y'th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost, yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Atebodd y meistr, ‘Dw i'n ddyn caled ydw i — yn ecsbloetio pobl ac yn dwyn eu cnydau nhw? Iawn! Dyna sut cei di dy drin gan dy fod ti'n was da i ddim!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
''th eiriau dy hun,' atebodd ef, 'y'th gondemniaf, y gwas drwg. Yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae efe yn dywedyd wrtho, Allan o'th enau dy hun y'th farnaf, O was drwg. A wyddit fy mod i yn wr caled; yn cymmeryd i fyny yr hyn ni osodais i lawr, ac yn medi yr hyn ni heuais?