Luke 19:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(A’ hvvytheu a ddywedcsont wrthaw, Arglwydd, y mae ganto ddec darn.)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ddeg maneh.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedasant wrtho, ‘Arglwydd, y mae ganddo ddeg punt.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt;)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Ond feistr,’ medden nhw, ‘Mae gan hwnnw hen ddigon yn barod!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Meistr,' meddent hwy wrtho, 'y mae ganddo ddeg darn yn barod.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg mina.