Luke 19:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu gwedy nessau o hanaw at Bethphage, a’ Bethania, wrtn y mynyth a elwir myn ydd yr olew‐wydd, e ddanvonawdd ddau o ei ddiscipulon,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu pan nesaodd at Bethphage a Bethania, at y mynydd a elwir Mynydd yr Olewydd, danfonodd ddau o’i ddisgyblion,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan nesaodd at Fethphage a Bethania ger y mynydd a elwir Olewydd, anfonodd ddau o’r disgyblion,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania, i'r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd ar fin cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, dwedodd wrth ddau o'i ddisgyblion,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gyrhaeddodd yn agos i Bethffage a Bethania, ger y mynydd a elwir Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, pan neshâodd efe i Bethphage a Bethania, wrth y Mynydd a elwid Olew‐wydd, efe a anfonodd ddau o'i Ddysgyblion,