Luke 19:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt, Ewch i’r dref ’sy gyferbyn a chvvi, ir hon, gwedy y deloch, y ce ff wch ebol wedy rwymo, ar yr hwn nyd eisteddawdd dyn erioed: gellwngwch ef, a’ dugwch yma.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, yn yr hwn, wrth fyned i mewn, y cewch ebol yn rhwym, ar yr hwn ni fu i neb o ddynion erioed eistedd: wedi ei ollwng, deuwch ag ef yma.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd, “Ewch i’r pentref gyferbyn, ac yno wrth fynd i mewn chwi gewch ebol yn rhwym, un nad eisteddodd neb dyn erioed arno, a gollyngwch a dygwch ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Ewch i'r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen. Wrth fynd i mewn iddo, dewch o hyd i ebol wedi ei rwymo — un does neb wedi bod ar ei gefn o'r blaen. Dewch â'r ebol i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ddweud, "Ewch i'r pentref gyferbyn. Wrth ichwi ddod i mewn iddo cewch yno ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, yn yr hwn pan yr eloch i mewn, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb dynion erioed; a chan ei ollwng ef yn rhydd, arweiniwch ef yma.