Luke 19:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy yddaw dd ynesau at ddescenfa mynydd yr olew‐wydd, y dechreawdd oll lliaws y discipulon lawenhau, a’ moly Duw a llef uchel dros yr oll veddiannae a wel e synt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth nesau o Hono yn awr, wrth ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd holl luaws y disgyblion, dan lawenychu, glodfori Duw â llef uchel am yr holl wyrthiau a welsent,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan oedd bellach yn nesáu, wrth y goriwaered o Fynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion glodfori Duw yn llawen â llef uchel am yr holl rymusterau a welsent,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac weithian, ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddon nhw'r fan lle mae'r ffordd yn mynd i lawr o Fynydd yr Olewydd, dyma'r dyrfa oedd yn dilyn Iesu yn dechrau gweiddi'n uchel a chanu mawl i Dduw o achos yr holl wyrthiau rhyfeddol roedden nhw wedi eu gweld:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd yn nesu at y ffordd sy'n disgyn o Fynydd yr Olewydd, dech-reuodd holl dyrfa ei ddisgyblion yn eu llawenydd foli Duw llais uchel am yr holl wyrthiau yr oeddent wedi eu gweld,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac weithian, ac efe yn neshâu at ddisgynfa Mynydd yr Olew‐wydd, dechreuodd yr holl luaws Dysgyblion lawenhâu a moli Duw gyd â llef uchel am yr holl weithredoedd nerthol a welsant,