Luke 19:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ðywedyt Ys gwynvydedic y Brenhin ’sy yn dyuot yn Enw yr Arglwydd: tangneddyf yn y nef, a’ gogoniant yn y lleoedd vchaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd, Bendigedig yw’r Brenhin sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd, Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchafion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd: “ Bendigedig yw’r un sy’n dyfod,Y Brenin, yn enw’r Arglwydd;Yn y nef tangnefedd A gogoniant yn y goruchafion.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r Brenin sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr! ” “Heddwch yn y nefoedd a chlod i Dduw yn y goruchaf!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ddweud: "Bendigedig yw'r un sy'n dod yn frenin yn enw'r Arglwydd; yn y nef, tangnefedd, a gogoniant yn y goruchaf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Yn y Nef Tangnefedd, a Gogoniant yn y Goruchafion!