Luke 19:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y rac redawð ef o’r blaen ac a ðringiawð i fficuspren‐gwyllt, y gahel y weled ef: can ys ffordd hono y dawei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi rhedeg rhagddo i’r blaen, dringodd i sycamorwydden fel y gwelai Ef, canys y ffordd honno yr oedd Efe ar fyned heibio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhedodd rhagddo yn ei flaen, a dringo sycamorwydden i gael ei weled, canys yr oedd ef i ddyfod y ffordd honno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i sycamorwydden, fel y gallai ei weled ef; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhedodd ymlaen a dringo coeden sycamorwydden oedd i lawr y ffordd lle roedd Iesu'n mynd, er mwyn gallu gweld.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhedodd ymlaen a dringo sycamorwydden er mwyn gweld Iesu, oherwydd yr oedd ar fynd heibio y ffordd honno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i fyny ar sycomorwydden, fel y gwelai efe ef, oblegyd yr oedd efe ar ddyfod y ffordd hono.