Luke 19:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt A’ phebysei i ti wybot, or lleiaf yn dy ðydd di hwn yma y pethae hyny a perthynant ith dangneddyf, onid yr awrhon wy guddiwyt y wrth dy lygait.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd, Pe gwybuasit yn y dydd hwn, ïe, tydi, y pethau i’ th heddwch! Ond yn awr, cuddiwyd hwynt oddiwrth dy lygaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd, “O na wybuasit tithau y dydd hwn y pethau a berthyn i heddwch! Ond yn awr fe’u cuddiwyd o’th olwg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Petaet ti hyd yn oed heddiw ond wedi deall beth fyddai'n dod â heddwch parhaol i ti! Ond mae'n rhy hwyr, a dydy heddwch ddim o fewn dy gyrraedd o gwbl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ddweud, "Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd ond na, fe'i cuddiwyd rhag dy lygaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, O na wybuasit tithau hefyd, yn y dydd hwn, y pethau a berthynant i dy heddwch: eithr yn awr cuddiwyd hwy oddi wrth dy lygaid!