Luke 19:44 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a’th wnāt yn gyd oystat ar ddaiar, ath plant ’sydd ynot, ac ny adant ynot vaen ar vaen, can na adnabuost amser dy ofwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A drylliant ti a’th blant o’th fewn, Ac ni adawant faen ar faen ynot, Gan nad adnabuost amser dy ymweliad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’th fwrw di i’r llawr a ’th blant o’th fewn, ac ni adawant ynot faen ar faen, am nad adnabuost amser dy ymweliad.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a'th wnânt yn gydwastad â'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cei di dy sathru dan draed, ti a'r bobl sy'n byw ynot. Bydd waliau'r ddinas yn cael eu chwalu'n llwyr, am dy fod wedi gwrthod dy Dduw ar y foment honno pan ddaeth i dy helpu di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'th ddymchwelant hyd dy seiliau, ti a'th blant o'th fewn; ni adawant faen ar faen ynot ti, oherwydd dy fod heb adnabod yr amser pan ymwelwyd thi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a'th fwriant i'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen: am na wybuaist amser dy Ymweliad.