Luke 19:48 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny chefynt beth a wnaent iddaw: can ys yr oll popul ymlynent wrthaw, pan glywent ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac felly hefyd pennaethiaid y bobl: ond ni chaent pa beth a wnaent, canys y bobl oll oedd ynglyn Wrtho, dan wrandaw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a methent wybod beth i’w wneud, canys yr oedd yr holl bobl yn dal ar bob gair wrth wrando arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w wneud, gan fod y bobl gyffredin yn dal ar bob gair roedd yn ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond heb daro ar ffordd i wneud hynny, oherwydd fod yr holl bobl yn gwrando arno ac yn dal ar ei eiriau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac ni chawsant beth a fedrent wneuthur; canys yr holl bobl oeddynt yn crogi wrth ei wefusau, pan yn gwrando.