Luke 19:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ei gwelsant vvy oll, murmuro a wnaechant, gan ddywwedyt, vyned o hanaw y letuyaw at ’wr pechaturus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled, yr oll o honynt a rwgnachasant, gan ddywedyd, At bechadur o ddyn yr aeth i mewn i lettya.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welsant, dechreuodd pawb rwgnach, gan ddywedyd, “Aeth i mewn i letya gyda gŵr pechadurus.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd y bobl welodd hyn ddim yn hapus o gwbl! Roedden nhw'n cwyno a mwmblan, “Mae wedi mynd i aros i dŷ ‛pechadur‛ — dyn ofnadwy!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welsant hyn, dechreuodd pawb rwgnach ymhlith ei gilydd gan ddweud, "Y mae wedi mynd i letya at ddyn pechadurus."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welsant, grwgnach yn ddirfawr a wnaethant oll, gan ddywedyd, Efe a aeth i mewn i letya gyd â dyn pechadurus!