Luke 19:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ Zacchaius a safawð racddavv, ac a ddyuot wrth yr Arglwydd, Wely, Arglwydd, haner vy‐da a roddaf yn avvr ir tlodion: ac a’ s dugym ddim y ar nep trwy hocced, mi ei talaf yn bedwar plyc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan sefyll, Zaccëus a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy meddiannau, Arglwydd, yr wyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os gan neb y cefais ddim ar gam, ei roddi yn ol yr wyf ar ei bedwerydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A safodd Sacheus, a dywedodd wrth yr Arglwydd, “Dyma fi’n rhoddi hanner fy eiddo i’r tlodion, Arglwydd; ac os dygais ddim oddi ar neb drwy gamachwyn, dyma fi’n dychwelyd cymaint bedair gwaith.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Saccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i'r tlodion; ac os dygais ddim o'r eiddo neb trwy gamachwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Sacheus yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, dw i'n mynd i roi hanner popeth sydd gen i i'r rhai sy'n dlawd. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond safodd Sacheus yno, ac meddai wrth yr Arglwydd, "Dyma hanner fy eiddo, syr, yn rhodd i'r tlodion; os mynnais arian ar gam gan neb, fe'i talaf yn l bedair gwaith."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Zacchëus a safodd i fyny, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, yr haner o'm meddianau, Arglwydd, yr wyf yn eu rhoddi i'r tlodion; ac os cam‐golledais neb, yr wyf yn ei ad‐dalu bedwar cymaint.