Luke 2:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC e ddarvu yn y dyddiae hyny, dyuot o ’orchymyn ywrth Augustus Caisar i vot trethy yr oll vyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu yn y dyddiau hyny, yr aeth allan orchymyn oddiwrth Cesar Augustus, i gofrestru’r holl fyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Gesar Awgwstus i gofrestru’r holl fyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bu hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cesar, i drethu'r holl fyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tua'r un adeg dyma Cesar Awgwstws yn gorchymyn cynnal cyfrifiad drwy'r Ymerodraeth Rufeinig i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru'r holl Ymerodraeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu yn y dyddiau hyny, fyned allan ddeddf oddiwrth Cesar Augustus, i wneyd cofrestriad o'r holl fyd trigianol.