Luke 2:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Ac e ddarvu, gwedy myned o’r Angelion o dd y wrthynt ir nefoeð, yno y dywede y bugelieit wrth y gylydd, Awn ninae yd ym Bethle‐hem, y welet y peth hynn y ddarvu, ac y ðangosawdd yr Arglwydd y ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddiwrthynt i’r nef, y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd, Awn drosodd, ynte, hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hwn a ddigwyddodd, yr hwn y bu i’r Arglwydd ei hyspysu i ni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, dywedai’r bugeiliaid wrth ei gilydd, “Awn draw i Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a fu ac a hysbysodd yr Arglwydd inni.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i'r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth yr angylion i ffwrdd yn ôl i'r nefoedd, dyma'r bugeiliaid yn dweud wrth ei gilydd, “Dewch! Gadewch i ni fynd i Bethlehem, i weld beth mae'r Arglwydd wedi ei ddweud wrthon ni sydd wedi digwydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i'r angylion fynd ymaith oddi wrthynt i'r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd, "Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, pan aeth ymaith yr Angelion oddiwrthynt i'r Nef, y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd, Awn drosodd hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni.