Luke 2:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy cyflawny yr wyth vet dydd, y enwaedy ar y dyn‐bychan, yno y galwyt y enw ef Iesu, yr hwn a enwesyt can yr Angel, cyn y ymddwyn ef ynghroth. Yr Euangel ar ddydd puredigeth y sanctes Vair.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i amdorri Arno, galwyd Ei enw IESU, yr hwn a alwesid gan yr angel cyn Ei ymddwyn yn y groth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan gyflawnwyd wyth niwrnod ei enwaedu ef, galwyd ei enw ef Iesu, yr enw y galwyd ef gan yr angel cyn ei ymddwyn ef yn y groth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef IESU, yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddŵyn ef yn y groth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd y plentyn yn wythnos oed cafodd ei enwaedu, a'i alw yn Iesu. Dyna oedd yr enw roddodd yr angel iddo hyd yn oed cyn iddo gael ei genhedlu yng nghroth Mair.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth yr amser i enwaedu arno ymhen wyth diwrnod, galwyd ef Iesu, yr enw a roddwyd iddo gan yr angel cyn i'w fam feichiogi arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i'w enwaedu ef, hefyd galwyd ei enw ef IESU, yr hyn y galwyd ef gan yr Angel, cyn y beichiogwyd arno yn y grôth.