Luke 2:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A gwedy cyflawny dyðiae puredigaeth Mair yn ol Deddyf Moysen, wy y ducesont ef i Caerusalem, y’w oystaty ef i’r Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth yn ol Cyfraith Mosheh, dygasant Ef i fynu i Ierwshalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth yn ôl deddf Moses, dygasant ef i fyny i Gaersalem i’w gyflwyno i’r Arglwydd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a'i dygasant ef i Jerwsalem, i'w gyflwyno i'r Arglwydd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd pedwar deg diwrnod wedi mynd heibio ers i'r bachgen gael ei eni, roedd y cyfnod o buro mae Cyfraith Moses yn sôn amdano wedi dod i ben. Felly aeth Joseff a Mair i Jerwsalem i gyflwyno eu mab cyntaf i'r Arglwydd
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth amser eu puredigaeth yn l Cyfraith Moses, cymerodd ei rieni ef i fyny i Jerwsalem i'w gyflwyno i'r Arglwydd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth hwy, yn ol Cyfraith Moses, hwy a'i dygasant ef i fyny i Jerusalem, i'w gyflwyno i'r Arglwydd,