Luke 2:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, ydd oedd gwr yn Caerusalem a’ ei enw yn Simeon: y gwr hwnn oedd gyfiawn a dwywol, ac yn dysgwyl am ðiðanwch yr Israel, a’r Yspryt glan oedd arnaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, yr oedd gŵr yn Ierwshalem, a’i enw Shimeon, a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a’r Yspryd Glân oedd arno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wele yr oedd dyn yng Nghaersalem a’i enw Simeon; a’r dyn hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl diddanwch yr Israel, a’r Ysbryd Glân oedd arno;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerwsalem, a'i enw Simeon; a'r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a'r Ysbryd Glân oedd arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd dyn o'r enw Simeon yn byw yn Jerwsalem — dyn da a duwiol. Roedd dylanwad yr Ysbryd Glân yn drwm ar ei fywyd, ac roedd yn disgwyl yn frwd i'r Meseia ddod i helpu Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o'r enw Simeon; dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn, yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Gln arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, yr oedd gwr yn Jerusalem, a'i enw Simeon; a'r gwr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn dysgwyl am Ddiddanwch yr Israel; a'r Yspryd Glân oedd arno.