Luke 2:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ Simeō y bendithioð hwy, ac a ddyuot wrth Vair y vam ef, Wele ys gesodwyt y map hwn yn gwymp ac yn gyfodiad igaeth llawer yn yr Israel, ac yn arwydd yr hvvn a ddywedir yn ei erbyn,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’u bendithio hwynt a wnaeth Shimeon, a dywedodd wrth Mair, Ei fam, Wele, Hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad llawer yn yr Israel, Ac yn arwydd y dywedir yn ei erbyn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bendithiodd Simeon hwynt, a dywedodd wrth Fair ei fam, “Wele hwn a osodwyd yn gwymp a chyfodiad i lawer yn yr Israel, ac yn arwydd a wrthwynebir
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Simeon yn eu bendithio nhw, a dweud wrth Mair, y fam: “Bydd y plentyn yma yn achos cwymp i lawer yn Israel ac yn fendith i eraill. Bydd yn rhybudd sy'n cael ei wrthod,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna bendithiodd Simeon hwy, a dywedodd wrth Fair ei fam, "Wele, gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer yn Israel, ac i fod yn arwydd a wrthwynebir;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei Fam ef, Wele, hwn sydd yn cael ei osod i fod er cwymp ac er cyfodiad i lawer yn yr Israel, ac i fod er arwydd yr hwn y mae dywedyd yn ei erbyn: