Luke 2:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(ac ys aiff cleðyf trwy dy enait) er ymatguddiaw meðyliae l’awer o calonae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrwy dy enaid di dy hun yr aiff cleddyf, Fel y datguddier meddyliau o lawer o galonnau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
(a’th enaid dithau a drywana cleddyf), fel y datguddier bwriadau llawer o galonnau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a bydd yr hyn mae pobl yn ei feddwl go iawn yn dod i'r golwg. A byddi di'n dioddef hefyd, fel petai cleddyf yn trywanu dy enaid di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a thithau, trywenir dy enaid di gan gleddyf; felly y datguddir meddyliau calonnau lawer."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
(ac hefyd drwy dy enaid dy hun yr â cleddyf) fel y byddo i feddyliau allan o lawer o galonau gael eu dadguddio.