Luke 2:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oeð Prophwetes vn Anna verch Phanuel, o ’lwyth Aser, yr hon oedd yn dra oedranus, ac a vysei vyw gyd a gwr saith blynedd oei gweryfdawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd Anna brophwydes, merch Phanwel, o lwyth Asher, a hon wedi myned i ddyddiau oedranus, ac wedi byw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd hefyd broffwydes, Anna merch Phanwel o lwyth Aser, — hon, wedi mynd ymhell ymlaen mewn dyddiau, ar ôl byw gyda gŵr saith mlynedd wedi ei morwyndod,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o'i morwyndod;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gwraig o'r enw Anna, oedd yn broffwydes, yn y deml yr un pryd. Roedd yn ferch i Phanuel o lwyth Aser, ac yn hen iawn. Roedd hi wedi bod yn weddw ers i'w gŵr farw dim ond saith mlynedd ar ôl iddyn nhw briodi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser. Yr oedd hon yn oedrannus iawn, wedi byw saith mlynedd gyda'i gu373?r ar l priodi,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd Anna, Proffwydes, merch Phanuel, o lwyth Aser: hon oedd oedranus iawn, ac a fu byw gyd â gwr saith mlynedd o'i morwyndod,