Luke 2:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phryd na chawsant ef, yr ywchoelasāt i Gaerusalē, ac ei caisiasant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chan na chawsant Ef, dychwelasant i Ierwshalem, gan edrych am Dano.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a phan nas cawsant, dychwelasant i Gaersalem gan chwilio amdano.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond methu dod o hyd iddo. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem i edrych amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi methu cael hyd iddo, dychwelsant i Jerwsalem gan chwilio amdano.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac heb ei gael, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gan ei geisio yn ddyfal.