Luke 2:47 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a vu aruthr gan pawp ae i clywoð, ei ðyall ef, a ’ei atepion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A synnodd pawb o’r a’i clywent Ef, wrth Ei ddeall a’i attebion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhyfeddai pawb a’i clywai at ei ddeall a’i atebion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A synnu a wnaeth ar bawb a'r a'i clywsant ef, oherwydd ei ddeall ef a'i atebion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pawb welodd e yn rhyfeddu gymaint roedd yn ei ddeall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yr oedd pawb a'i clywodd yn rhyfeddu mor ddeallus oedd ei atebion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai oll a'i clywsant ef a synasant at ei ddeall a'i atebion.